Iechyd yn y cyd-destyn o ddatblygiad rhyngwladol; cynllyn ar rhan o ddolen Abertawe-Gambia

Mae’r cynllyn yma wedi ei ddatblygu gan dolen Abertawe-Gambia ag Rhadran Rhyngwladol Prifysgol Abertawe ac yn rhan o ddolen iechyd Wales for Africa. Bydd deg myfyriwr o’r ysgolion Gwyddor Iechyd, Meddygol a Gwleidyddiaeth, gyda i’w tiwtoriaid, yn trafeilio ac yn ymchwilio iechyd o fewn cyd-destyn datblygiad rhyngwladol. Mae’r cynllyn yn trio darganfod y cyd-ddibyniad rhwng afiechyd ac materion fel yr amgylchedd a datblygiad ac fydd yn mynd tuag at helpu hefo’r Millenium Development Goals y UN, yn fwy benodol, MDG 8 – Partneriaeth Rhyngwladol tuag at Ddatblygiad. Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol y Gambia i archwilio’r ffactorau ddi-oed ac eang sydd yn cyfrannu tuag at afiechyd. Trwy fynd i ysbytai a calolfannau iechyd, gyda cartrefi a pentrefi yn yr ardal lleol, byddent yn cael syniad gwell o’r sefyllfa iechyd allan yn y Gambia.

Mae’r blog yma wedi cael ei gychwyn, ac yn cael ei redeg gan myfyrwyr. Os oes unrhyw gwestiynnau, cysylltwch Jimmy Hay ar 341465@swansea.ac.uk

Wedi cyfieuthu gan Tomos Watkin

Saturday, 31 July 2010

Diwrnod Pump

Aru ni gychwyn yn gynnar bore ddoe, oherwydd mae ddydd gwener traddiodiadol yn hanner diwrnod yn y Gambia. Ar ol cael wythnos da iawn hyd yn hyn – gyda darganfod plentyn a teulu sydd yn fodlon cymryd rhan yn y cynllun, a caniatad gan y fam a’r tad i ymweld a’i cartref tu allan i Banjul - aru ni benderfynnu aros yn y dosbarth i drafod yr adroddiad.

Ar ol trafodiad hir, aru ni benderfynnu ar torri yr adroddiad i fewn i bedwar rhan: Beichiogiad, Genedigaeth, Bwydo, Triniaeth

Yn amgylchynu y pedwar rhan yma fydd y pumed rhan, y Trafodaeth. Fydd yr adran yma yn cysidro’r ffactorau diwylliadol, lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang sydd yn effeithio y pedwar rhan arall. Gyda hyn, fydd yr adran yma yn edrych ar y ffactorau cyn-genedigaeth sydd yn cyfrannu tuag at ddifyg maeth, fel addysg y fam a’r tad a iechyd y fam ers bod hi’n blentyn.

Da ni wedi rhannu ei’n gilydd rhwng dau grwp, a ddydd llun fydd pob grwp yn cyfeirio dau allan o’r pedwar adran. Wedyn yn dod at ei’n gilydd i gysidro yr adran Trafodaeth o fewn adrodd Beichiogiad, Genedigaeth, Bwydo a Triniaeth.

Da ni i gyd yn teimlo fel bod y cynllun yn ymdeithio’n dda iawn hyd yn hyn. Wythnos nesaf da ni’n mynd i ymweld acyfluniannau iechyd, clinigau, cyfluniannau llywodraethol a dim-llywodraethol a canolfannau iechyd gwledig o gwmpas y Gambia, i rhoi syniad gwell o beth i gynnwys yn y Trafodaeth. Fydd o hefyd yn helpu ni i gysidro y cas, a hefyd difyg maeth ar y cyfan, gyda ystiriaeth o gyd-destyn iechyd fwy eang.

No comments:

Post a Comment