Iechyd yn y cyd-destyn o ddatblygiad rhyngwladol; cynllyn ar rhan o ddolen Abertawe-Gambia

Mae’r cynllyn yma wedi ei ddatblygu gan dolen Abertawe-Gambia ag Rhadran Rhyngwladol Prifysgol Abertawe ac yn rhan o ddolen iechyd Wales for Africa. Bydd deg myfyriwr o’r ysgolion Gwyddor Iechyd, Meddygol a Gwleidyddiaeth, gyda i’w tiwtoriaid, yn trafeilio ac yn ymchwilio iechyd o fewn cyd-destyn datblygiad rhyngwladol. Mae’r cynllyn yn trio darganfod y cyd-ddibyniad rhwng afiechyd ac materion fel yr amgylchedd a datblygiad ac fydd yn mynd tuag at helpu hefo’r Millenium Development Goals y UN, yn fwy benodol, MDG 8 – Partneriaeth Rhyngwladol tuag at Ddatblygiad. Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol y Gambia i archwilio’r ffactorau ddi-oed ac eang sydd yn cyfrannu tuag at afiechyd. Trwy fynd i ysbytai a calolfannau iechyd, gyda cartrefi a pentrefi yn yr ardal lleol, byddent yn cael syniad gwell o’r sefyllfa iechyd allan yn y Gambia.

Mae’r blog yma wedi cael ei gychwyn, ac yn cael ei redeg gan myfyrwyr. Os oes unrhyw gwestiynnau, cysylltwch Jimmy Hay ar 341465@swansea.ac.uk

Wedi cyfieuthu gan Tomos Watkin

Tuesday 27 July 2010

Diwrnod Cyntaf

Heddiw oedd y diwrnod cyntaf or cynllun, ac o’r diwedd cwrdd a ni ei’n cyd-weithwyr o’r Gambia. Oedd o’n gyffroes cychwyn y cynllun a rhannu syniadau hefo’r myfyrwyr o’r Gambia. Oedd o hefyd yn gynhyrchiol iawn, ar ol pnawn hefo’n gilydd, o ni wedi cynhyrchu strwythur a trefneg y pedwar wythnos nesaf.

Cyrhaeddom ni yn y Royal Victoria Teaching Hospital am 9 o’r gloch bore ddoe, ac ar ol cyfarfod swyddogwyr yr ysbytu, cyflwynodd y myfyrwyr a tiwtoriaid o’r Gambia ac Abertawe i’w gilydd. Mae o’n neis gweld bod y grwp myfyrwyr o’r Gambia mor amrywiol a ni, ag hyn sydd yn gwneud y prosiect yma mor unigriw a gwreiddiol. Ar ol hyn, cawsom ni taith op gwmpas yr ysbytu, cyn symud yn mlaen i ystafell yn yr ysgol nyrsio i drafod y cynllun mewn mwy o fanyldeb.

Ar ol trefnu pawb mewn tri gwahanol grwp, hefo rhif hafal o myfyrwyr Abertawe a Gambia ym mhob grwp, trafodwn ni y tri rhan hollbwysig yr adroddiad: Yr astudiaeth, trefneg y cynllun ac y gwahanol fyrdd i gyhoeddi’r prosiect. Dewis y claf fydd y rhan mwyaf teimladwy or adroddiad, a dim ond hefo help y myfyrwyr o’r Gambia fyddwn ni yn medru helpu osgoi y pwnc anodd yma. Mae eu wybodaeth nhw amdan y ffordd mae’r ysbytu yn gweithio ac adranau mwy teimladwy yn werthfawr iawn.

Gweithio hefo’r myfyrwyr o Gambia yn y ffordd yma, yn dangos agweddau pobol o ddau gwahanol darnau o’r byd tuag at problemau iechyd a diwylliant, sydd yn darnodi y prosiect yma. Trwy rhannu profiadau o afiechyd a diwylliant, da ni yn gobeithio tyfu fel grwp a dysgu am y fyrdd allwn ni I gyd weithio hefo’n gilydd tuag at un canlyniad.


No comments:

Post a Comment