Aru ni gychwyn yn gynnar bore ddoe, oherwydd mae ddydd gwener traddiodiadol yn hanner diwrnod yn y Gambia. Ar ol cael wythnos da iawn hyd yn hyn – gyda darganfod plentyn a teulu sydd yn fodlon cymryd rhan yn y cynllun, a caniatad gan y fam a’r tad i ymweld a’i cartref tu allan i Banjul - aru ni benderfynnu aros yn y dosbarth i drafod yr adroddiad.
Ar ol trafodiad hir, aru ni benderfynnu ar torri yr adroddiad i fewn i bedwar rhan: Beichiogiad, Genedigaeth, Bwydo, Triniaeth
Yn amgylchynu y pedwar rhan yma fydd y pumed rhan, y Trafodaeth. Fydd yr adran yma yn cysidro’r ffactorau diwylliadol, lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang sydd yn effeithio y pedwar rhan arall. Gyda hyn, fydd yr adran yma yn edrych ar y ffactorau cyn-genedigaeth sydd yn cyfrannu tuag at ddifyg maeth, fel addysg y fam a’r tad a iechyd y fam ers bod hi’n blentyn.
Da ni wedi rhannu ei’n gilydd rhwng dau grwp, a ddydd llun fydd pob grwp yn cyfeirio dau allan o’r pedwar adran. Wedyn yn dod at ei’n gilydd i gysidro yr adran Trafodaeth o fewn adrodd Beichiogiad, Genedigaeth, Bwydo a Triniaeth.
Da ni i gyd yn teimlo fel bod y cynllun yn ymdeithio’n dda iawn hyd yn hyn. Wythnos nesaf da ni’n mynd i ymweld acyfluniannau iechyd, clinigau, cyfluniannau llywodraethol a dim-llywodraethol a canolfannau iechyd gwledig o gwmpas y Gambia, i rhoi syniad gwell o beth i gynnwys yn y Trafodaeth. Fydd o hefyd yn helpu ni i gysidro y cas, a hefyd difyg maeth ar y cyfan, gyda ystiriaeth o gyd-destyn iechyd fwy eang.