Iechyd yn y cyd-destyn o ddatblygiad rhyngwladol; cynllyn ar rhan o ddolen Abertawe-Gambia

Mae’r cynllyn yma wedi ei ddatblygu gan dolen Abertawe-Gambia ag Rhadran Rhyngwladol Prifysgol Abertawe ac yn rhan o ddolen iechyd Wales for Africa. Bydd deg myfyriwr o’r ysgolion Gwyddor Iechyd, Meddygol a Gwleidyddiaeth, gyda i’w tiwtoriaid, yn trafeilio ac yn ymchwilio iechyd o fewn cyd-destyn datblygiad rhyngwladol. Mae’r cynllyn yn trio darganfod y cyd-ddibyniad rhwng afiechyd ac materion fel yr amgylchedd a datblygiad ac fydd yn mynd tuag at helpu hefo’r Millenium Development Goals y UN, yn fwy benodol, MDG 8 – Partneriaeth Rhyngwladol tuag at Ddatblygiad. Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol y Gambia i archwilio’r ffactorau ddi-oed ac eang sydd yn cyfrannu tuag at afiechyd. Trwy fynd i ysbytai a calolfannau iechyd, gyda cartrefi a pentrefi yn yr ardal lleol, byddent yn cael syniad gwell o’r sefyllfa iechyd allan yn y Gambia.

Mae’r blog yma wedi cael ei gychwyn, ac yn cael ei redeg gan myfyrwyr. Os oes unrhyw gwestiynnau, cysylltwch Jimmy Hay ar 341465@swansea.ac.uk

Wedi cyfieuthu gan Tomos Watkin

Thursday 12 August 2010

Wythnos 3

Yr wythnos yma, da ni i gyd wedi bod yn ymweld a’r clinics a cyfluniannau iechyd olaf. Bore dydd llun, cyfarfo ni swyddogion pwysig o CIAM, canolfan ymchwilio a datblygu iechyd cyhoedd. Cychwynnodd fel adran y gyfraith the ymchwilio a dilyn malaria yn y Gambia, ond mae nhw rwan yn gyfrifol amdan arolygu ac arfanu rhaglenni HIV a Malaria, cyfranogiad y cyhoedd ac adeiladu gallu mewn unigolion.
Ymwelodd y myfyrwyr meddygol a tŷ y claf a’r fam, oherwydd cyrhaeddodd y claf adre o’r Royal Victoria Teaching Hospital wythnos diwethaf. Oedd o’n bleser ac yn ddiddorol iawn ymweld a’r teulu yn e’u cartref, ac i ni gasglu mwy o wybodaeth am arferiadau bwydo o’r fam, manylion brodyr a chwiorydd y claf ac amgylchiad y cartref. I gyd yn wybodaeth pwysig i ni arfarnu y dylanwadau cymdeithasol, amgylchol a datblygiadol o ddifyg maeth.

Ddoe cawsom ni siawns i ddilyn cylchres ward ar ward plant gyda’r tîm meddygol yn yr MRC (Medical Research Council), oedd yn enwedig o ddifir i’r myfyrwyr meddygol. Roedd y cylchres ward yn ddefnyddiol iawn i’r cynllun, oherwydd oedd rhan fwyaf o’r cleifion ar y ward hefo cefndir o ddifyg maeth, gyda salwch fel malaria, pneumonia a salwch diarrhoea. Amlygodd hyn y pwysicrwydd o faeth yn y Gambia, ac yr angen am wahanol fyrdd o drin ddifyg maeth.

Mae fwy o ymwelediau wedi cael ei drefnu i cartref y teulu drost gweddill yr wythnos. Mae’r fam wedi bod yn groesawgar iawn i ni, ac yn fodlon i ni gyfweli hi i’r cynllun. Heblaw am hyn, ysgrifennu yr adroddiad ydi’r brif ganolbwynt rwan. Da ni wedi medru cychwyn crynhoi drost y diwrnodau diwethaf, sydd yn hwb i’r holl grwp, oherwydd rwan allwn ni weld ei’n gwaith caled drost yr wythnosau diwethaf yn cychwyn cymryd siap. Bydd nifer o gyfluniannau iechyd a tyrrau rhyngwladol yn darllen yr adroddiad terfynol, a da ni’n gobeithio fydd o’n gwneud gwahaniaeth go iawn, nid yn unig gyda ffordd arall i ddatrus y problem o ddifyg maeth, ond hefyd i annog y ffurfiad o bartneriaethau cyd-ddisgyblaethau yn y dyfodol.

No comments:

Post a Comment